Chi, y rhyngrwyd ac ymddiriedaeth

Chi, y rhyngrwyd ac ymddiriedaeth

Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf ohonom yn cymryd y rhyngrwyd yn ganiataol ar gyfer llawer o bethau rydym yn eu gwneud bob dydd. Yr hyn rydym yn dewis ei wneud fel y cyfryngau cymdeithasol, darllen y newyddion neu ffrydio adloniant, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud fel cael gafael ar wasanaethau swyddogol.

Mae dewisiadau digyffelyb, cyfleustra 24/7 a hyblygrwydd y rhyngrwyd yn fanteision sy’n addas i bobl o bob oedran, lle bynnag y maent yn byw neu’n gweithio. Fodd bynnag, mae’n well gan eraill wneud pethau yn y ffordd draddodiadol, oddi ar-lein am sawl rheswm, a’r prif un yw ymddiriedaeth. Rydym i gyd wedi cael profiad personol neu wedi clywed am brofiadau negyddol gan gynnwys twyll neu gam-drin ar-lein, sydd i gyd, yn anffodus, yn rhy gyffredin.

Er mwyn mynd ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus, mae’n bwysig gwybod pwy a beth y gallwch ymddiried ynddynt … a phwy a beth na allwch ymddiried ynddynt.

Awgrymiadau ymddiriedaeth gwych

Diogelu eich plant

Mae’n dda ymddiried yn eich plentyn i ymddwyn yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein ond cofiwch, maent yn dysgu wrth fod yn chwilfrydig ac yn datblygu wrth wthio ffiniau. Ystyriwch hilyddion rhieni ac ISP hefyd.

Siaradwch yn rheolaidd â’ch plentyn am yr hyn y maent yn ei wneud ar-lein a gofynnwch iddynt ddangos i chi. Trafodwch yr agweddau negyddol posibl, fel rhannu gormod, amlygiad i gynnwys amhriodol, seiberfwlio a pherygl dieithriaid, boed hynny ar gyfryngau cymdeithasol, wrth anfon negeseuon neu ar lwyfannau gemau a llwyfannau eraill sy’n cynnwys sgwrs. Siaradwch am bwy y dylent ymddiried ynddo a phwy na ddylent ymddiried ynddo.

Cyfeiriwch eich plentyn at wefannau ac apiau chwilio diogel a dilys. Edrychwch ar yr hyn y maent yn ei wylio/neu ei rannu ar safleoedd ffrydio fel YouTube a TikTok. Anogwch nhw i ddefnyddio llwyfannau addas i blant fel YouTube Kids. 

Meddyliwch yn gynhwysol

Mae’n bwysig bod pawb yn teimlo y gallant ymddiried yn y rhyngrwyd â diogelwch a hyder, waeth beth yw eu rhyw, galluedd, ymddangosiad, cefndir neu gredoau drwy ymddiried yn eu hymddygiad eu hunain ac yn ymddygiad eraill. Gweithredu â pharch bob amser, rhowch eich hun yn sefyllfa pobl eraill a thrin pobl fel yr hoffech gael eich trin eich hun, gan ennyn eu hymddiriedaeth ar yr un pryd. Os byddwch yn dioddef camdriniaeth neu wahaniaethu eich hunan, gwnewch yn siŵr bod gennych strategaethau ar waith i liniaru’r problemau.

Prynu ar-lein yn ddiogel

O esgidiau rhedeg i dryciau, tocynnau i dechnoleg, bagiau llaw i wyliau, gallwch brynu unrhyw beth ar-lein. Ond mae twyllwyr yn defnyddio gwefannau arwerthu, rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd eraill ar-lein i ddenu eu dioddefwyr â hysbysebion am gynnyrch nad ydynt yn bodoli. Dysgwch sut i adnabod arwyddion hysbyseb, postiad neu e-bost na ellir ymddiried ynddo. Ac i weld a yw gwefan yn debygol o fod yn ddilys neu’n dwyllodrus, ewch i www.getsafeonline.org/checkawebsite

Camwybodaeth a newyddion ffug: gweld y gwahaniaeth

Mae nifer sylweddol o newyddion ffug a gwybodaeth anwir ar y rhyngrwyd, a rhai ohonynt yn fwriadol faleisus, a rhai yn eithaf diniwed. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn ymddiried ym mhob dim y maent yn ei ddarllen ac nid yn unig yn gweithredu arno, ond hefyd yn ei anfon ymlaen. Mae’n bwysig eich bod yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth wir a ffug drwy ofyn i chi eich hun a yw’n wir yn ymddangos yn ddilys a’i wirio yn erbyn ffynonellau eraill ag enw da iddynt.

Bod yn gymdeithasol ond bod yn ofalus

Mewn cymdeithas o biliynau o bobl ar gyfryngau cymdeithasol, ni ddylai fod yn syndod i chi bod angen i chi fod yn ofalus wrth ei ddefnyddio.

Er enghraifft, cymerwch amser i feddwl pwy all weld eich proffil a’r hyn rydych yn ei bostio neu’n rhoi sylw arno. Allwch chi ymddiried ym mhawb â’r hyn rydych yn ei rannu?

Hefyd, meddyliwch am eich ceisiadau cyfeillio: allwch chi fod yn sicr bod rhywun yn dweud y gwir am bwy ydynt?

A chofiwch y gall postiadau a negeseuon sy’n dal eich llygaid fod yn dwyll hefyd. Gallai apeliadau elusennol fod yn onest … ond gallent fod yn dwyll. Efallai bod cwisiau ac arolygon wedi’u dylunio i gasglu eich data cyfrinachol. Gall hysbysebion fod yn ffug. Meddyliwch ddwywaith cyn clicio neu ymateb bob amser.

#YmddiriedaethArLein

In Partnership With