Ymosodiadau Atal Gwasanaeth Gwasgaredig

Mae’n dod yn gynyddol gyffredin i sefydliadau gael eu targedu gan ymosodiadau ar-lein sy’n golygu na all eu gwefan wasanaethu ceisiadau dilys. Nid math o hacio yw Ymosodiad Atal Gwasanaeth Gwasgaredig, ond yn hytrach achos wedi’i drefnu o lawer o ymwelwyr ar yr un pryd, gan lethu seilwaith eich gwefan. Yn aml, nid llawer o bobl yn ymweld â’r wefan ar yr un pryd er mwyn lleihau ei heffeithlonrwydd neu wneud iddi fethu hyd yn oed, fydd yn achosi ymosodiadau o’r fath, ond bot-rwyd (rhwydwaith o gyfrifiaduron robot wedi’u heintio) sy’n cael eu rheoli o bell i wneud hynny gan seiberdroseddwyr. Mae’r rhan fwyaf o ddioddefwyr yn sefydliadau proffil uchel fel cwmnïau amlwladol, asiantaethau’r llywodraeth a banciau / darparwyr gwasanaethau ariannol eraill. Fodd bynnag, nid yw unrhyw sefydliad sydd â gwefan yn ddiogel.

Cymhellion ar gyfer ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

  • Blacmel / cribddeiliaeth.
  • Effeithio’n negyddol ar eich enw da neu ei ddinistrio hyd yn oed.
  • Cystadleuaeth annheg (manteisio ar eich diffyg gwasanaeth er mwyn ennill eich cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt).
  • Drwgdeimlad yn eich erbyn chi neu eich busnes.
  • Yr awydd i gael credadwyedd ymysg y gymuned droseddol.
  • Hactifadu

Diogelu eich busnes

Mewn termau technegol, gall ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig ddod ar sawl ffurf, ac fel sawl agwedd ar y rhyngrwyd, mae angen gwybodaeth fanwl er mwyn eu deall ac amddiffyn rhagddynt.

Os oes gennych reswm i gredu eich bod yn darged posibl i ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, rydym yn argymell eich bod yn dod o hyd i arbenigwr diogelu rhag ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig sydd â’r wybodaeth a’r adnoddau ategol i ddiogelu eich busnes ac yn ymgynghori ag ef. Dylai allu argymell a gweithredu datrysiad technegol er mwyn lliniaru’r bygythiad i’ch busnes.

Cynllunio galluoedd

Dylai pob sefydliad sydd â gwefan wneud yn siŵr ei fod wedi’i ddiogelu cymaint â phosibl rhag traffig anghyfreithlon a chyfreithlon sy’n anarferol o uchel (ac annisgwyl).

Dylech gynnal asesiad risg, gan ystyried yr holl ganlyniadau rhesymol, a sefydlu capasiti gweweinydd, band eang a phŵer prosesu i fynd i’r afael â nifer fawr o ymweliadau ar yr un pryd. Trefnwch gyda’ch darparwr cynnal i hwyluso camau hyblyg a rhagweithiol o fynd i’r afael â llwythi heb lawer o rybudd os o gwbl ac ystyriwch gydbwyso llwythi i weinyddion lluosog. Bydd cost yn gysylltiedig â’r trefniadau hyn, ond bydd angen i chi gydbwyso hyn yn erbyn y risgiau a’r canlyniadau i’ch busnes ac efallai y gellir trafod hyn.

In Partnership With