Cyfrifon Defnyddwyr

Mewn unrhyw sefydliad lle mae gan fwy nag un person fynediad i gyfrifiadur neu rwydwaith, mae angen sefydlu cyfrifon defnyddiwr er mwyn rhoi mynediad i unigolion i’w ffeiliau eu hunain, rhaglenni, cyfrifon e-bost, dewis o borwr rhyngrwyd (lle y caniateir dewis personol) a hanes .. a chyfyngu mynediad i bersonau anawdurdodedig.

Mae cyfrifon defnyddwyr yn cynnig nifer o fuddiannau ymarferol eraill:

Maent yn rhoi rheolaeth mynediad – gan gyfyngu ar fynediad i wybodaeth cwmni amrywiol i’r cyflogeion neu’r contractwyr hynny sydd â’r awdurdod i’w gweld. Er enghraifft, efallai na fydd gan rywun yn yr adran cyfrifon awdurdod i gael mynediad i gofnodion adnoddau dynol ar y rhwydwaith, ac i’r gwrthwyneb.

Maent yn galluogi cyflogeion i ddefnyddio mwy nag un cyfrifiadur mewn sefydliad, p’un a ydynt yn gweithio’n barhaol ar y safle, yn gweithio wrth sawl gweithfan neu’n gweithio o bell.

Hefyd, mae sefydlu cyfrifon defnyddwyr yn diogelu rhag mynediad i gyfrifiadur neu rwydwaith gan drydydd partïon anawdurdodedig fel ymwelwyr, pobl fasnach neu dresmaswyr.

Sefydlu a defnyddio cyfrifon defnyddwyr

Dylai fod yn gyflym ac yn syml i sefydlu cyfrifon defnyddwyr ar gyfrifiaduron a rhwydweithiau drwy eu paneli rheoli perthnasol. Os nad ydych yn siŵr, cyfeiriwch at sgriniau help, neu ewch i’r dudalen cymorth ar-lein berthnasol ar gyfer y system weithredu rydych yn ei defnyddio.

Mae gan gyfrifon defnyddwyr enw defnyddiwr a chyfrinair. Fel yn achos unrhyw fynediad a ddiogelir gan gyfrinair, dylai cyfrineiriau fod yn gryf, mor anodd â phosibl i’w dyfalu neu eu datrys, ac ni ddylid eu rhannu rhwng defnyddwyr, beth bynnag fo’r esgus.

Dylai pob defnyddiwr allgofnodi cyn trosglwyddo’r defnydd o’r cyfrifiadur mae’n ei ddefnyddio i unrhyw un arall, a chloi’r sgrin pan na fydd yn ei defnyddio.

Cyfrifon gweinyddwyr

Gweinyddwr yw rhywun a all wneud newidiadau ar gyfrifiadur neu rwydwaith a fydd yn gymwys i’r defnyddwyr eraill, fel newid gosodiadau diogelwch, gosod meddalwedd a chaledwedd, ychwanegu, dileu a diweddaru cyfrifon defnyddwyr eraill a chael mynediad i bob ffeil. Gall gweinyddwr hefyd newid mathau cyfrifon defnyddwyr eraill i statws gweinyddwr.

Felly, rhaid i rywun â breintiau gweinyddwr fod yn aelod dibynadwy o staff gyda mwy na gradd sylfaenol o wybodaeth TG. Yn achos rhai busnesau bach, gallai hwn fod yn berchennog y busnes neu gyfarwyddwr arall.

Er mwyn mewngofnodi fel gweinyddwr, rhaid i chi neu’r cydweithiwr enwebedig gael cyfrif defnyddiwr gyda math o gyfrif gweinyddwr, y gellir ei wirio ar ôl mewngofnodi.

 

In Partnership With